Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2019
Amser:
09.30 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5495
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Cath Broderick, Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol Mick Giannasi, Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol.
2.2 Cytunodd Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol i ddarparu manylion ar y diffiniad o “ddigwyddiadau difrifol” a ddefnyddir gan y tîm clinigol fel rhan o’i adolygiad ôl-weithredol.
3.1 Nododd y Pwyllgor y ddau lythyr.
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a thrafodwyd opsiynau craffu pellach. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd David Jenkins i drafod ei waith yn cefnogi Cadeirydd y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i sicrhau gwelliannau o ran arweinyddiaeth a llywodraethu corfforaethol i gyfarfod yn y dyfodol.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ar y gwahanol ffrydiau sy’n cefnogi’r broses ymyrraeth.
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref, a nifer o gynigion ar gyfer ymchwiliadau posibl yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor i’r ysgrifenyddiaeth wneud rhywfaint o waith cwmpasu pellach a chytunodd i ystyriodd y mater eto yn nhymor yr hydref.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o ystyried fframweithiau polisi cyffredin ledled y DU a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael rhagor o fanylion am nifer o faterion i lywio unrhyw waith craffu y bydd y Pwyllgor am ei wneud yn y dyfodol.